World Wide Wales

If you still here please click here.


A465 Y Fenni i Gastell Nedd

Fflach-ffilm am Ffordd Blaenau’r Cymoedd A465, yn cynnwys Y Fenni, Sugarloaf, Merthyr Tudful, Castell Cyfarthfa, Castell Nedd, Traphont Cefn Coed, Y Crawshays, A465, Gilwern, Afon Gwy, Camlas Aberhonddu a mwy, rhan o’r cagliad mwyaf o ffilmiau ar unrhyw ddiwylliant unrhyw fan ar y We.

Cymru ar y we Yn y Fenni mae’r A465 yn croesi’r ffyrdd sy’n mynd i Aberhonddu, Casnewydd a Threfynwy cyn parhau tua’r gorllewin fel priffordd dair lôn i gyfeiriad Gilwern a Cheunant Clydach. Tua’r de mae mynydd Blorens a tharren y maes glo yn codi’n sydyn, tra i’r gogledd mae dolydd Afon Wysg, y Sugarloaf a’r Mynydd Du. Yng Ngilwern mae’r ffordd yn croesi Camlas Aberhonddu, a adeiladwyd yn 1797, ac yn mynd i mewn i Geunant Clydach. Gerllaw mae olion Gwaith Haearn Clydach o’r ddeunawfed ganrif, a’r ffordd yn dechrau dringo yn ymyl hen ffordd dyrpeg y “Graig Ddu”. Gan fynd o dan frigiadau calchfaen uchel a thrwy goed ffawydd sylweddol, o bosib y rhai hynaf yng Nghymru, mae’r ffordd yn cynnig golygfeydd o raeadrau bach a thramffyrdd oedd yn bwysig adeg y prysurdeb diwydiannol. Daw creigiau sy’n cynnwys glo i’r golwg ger Brynmawr, y dref uchaf yng Nghymru, sydd erbyn hyn i raddau helaeth yn rhan o dirwedd wedi ei adfer. O Frynmawr mae’r ffordd yn dringo i uchder o 1350 troedfedd uwchben y môr, trwy’r "Patches", ardal a gafodd ei rhidyllu a’i rheibio wrth i’r glo a’r haearn gael eu cloddio o’r tir, ond sydd bellach wedi cael ei thirlunio a’i hadfer. Yma y mae erchwyn y maes glo. Tua’r gogledd mae corstir Llangadog a Llangynidr yn ymestyn tua Dyffryn Wysg, tra gallwch weld i’r de yr hen gymoedd diwydiannol sy’n wyrddlas erbyn hyn, y cymoedd y bu eu poblogaeth yn cyflenwi’r haearn neu lo i’r byd. Mae’r ffordd yn codi a gostwng trwy flaenau cymoedd Ebwy, Sirhywi, Rhymni, Taf a Chynon, gyda golygfeydd eang dros hen ardaloedd y glo a’r haearn. Mae’n mynd heibio Beaufort a Glyn Ebwy, ac yn ymyl Tredegar mae traphont reilffordd oedd yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â Pharc Gwledig Brynbach, a sefydlwyd ar gannoedd o aceri o dir gwastraff wedi ei adennill. Gan groesi cribau a chorstir bryniog tua Dowlais, heibio i gyffyrdd Merthyr Tudful a Chaerdydd, mae’r ffordd yn gostwng yn raddol i ben uchaf Dyffryn Taf. Merthyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd prifddinas haearn y byd a’r dref fwyaf yng Nghymru. Gallwch weld y dref a Dyffryn Taf, tra bod mynyddoedd Bannau Brycheiniog yn codi i’r gogledd y tu draw i fryncyn Castell Morlais o’r drydedd ganrif ar ddeg. Wrth groesi Afon Taf ar hyd dyfrffordd Cefn Coed, fe gewch olygfeydd hyfryd ar hyd Dyffryn Taf. I’r de mae Castell Cyfarthfa, cartref teulu’r Crawshays yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a arferai edrych i lawr ar eu hymerodraeth wneud haearn. Gerllaw traphont reilffordd wych mae cylchdro ble mae’r ffordd yn cyfarfod yr A470. O gyffordd yr A470 mae’r ffordd yn dringo’n gyson i fwlch uchel gyda golygfeydd eang tuag at darren Cwm Rhondda a draw i orllewin Cymru. Yn Hirwaun mae’r A465 yn dod yn ffordd ddeuol ac yn mynd heibio Glofa’r Twr, yr unig bwll dwfn sy’n dal i weithio yng Nghymru a hwnnw’n eiddo i’w weithwyr. Uwchben mae tarennau uchel y Rhigos yn edrych tua’r gogledd dros wlad o raeadrau hardd, a’r tu draw mae Bannau Brycheiniog, Aberhonddu a Bannau Caerfyrddin, rhan o’r wlad fwyaf anghysbell yng Nghymru a Lloegr. Ar ôl disgyn yn hir gan fynd heibio i dir lle mae glo yn brigo i’r wyneb fe ddaw’r ffordd i mewn i Gwm Nedd dros draphont Glyn Nedd. Mae’r ffordd fodern wych yn disodli hen ffordd droellog a fu, ynghyd â Chamlas Nedd o’r ddeunawfed ganrif, yn gwasanaethu diwydiant a chartrefi ar hyd y cwm oedd unwaith yn fwrlwm diwydiannol. Mae Afon Nedd yn llifo gerllaw ac mae’r ffordd yn rhedeg ar hyd glannau llynnoedd o wneuthuriad dyn trwy ddyffryn gyda choed ar y ddwy ochr. Awn heibio rhaeadrau Resolfen ac Aberdulais; ger Aberdulais mae’r gamlas yn croesi dyfrbont wych. Mae Coedwig Rheola, un o’r rhai mwyaf helaeth yng Nghymru, yn gorchuddio’r bryniau i’r gogledd orllewin o’r ffordd ac yn fuan fe ddaw Castell Nedd i’r golwg ychydig bellter o’n blaenau tua’r de. Mae Mynachlog Nedd i’w weld yn glir o’r ffordd; yma y cafodd Edward yr Ail ei ddal a’i garcharu yn 1397, ac yna’i lofruddio’n erchyll yng Nghastell Berkeley. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi’n helaeth gan weithwyr copr a glowyr a wnaeth eu cartrefi y tu mewn iddo yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ar bymtheg ganrif. Oddi yma i gyffordd 43 ar yr M4 mae’r A465 yn mynd trwy ardal a gafodd unwaith ei difrodi a’i gwenwyno gan weithfeydd copr y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda’u mwg sylffwr. Erbyn hyn mae’r tir oedd ymysg y mwyaf diffaith o diroedd diwydiannol Cymru wedi ei adennill ac yn wyrddlas unwaith eto. Y tu draw mae Bae Abertawe a’r môr.

Home